Newidiadau i Blackboard: dyddiadau diwygiedig

Jul 15 2010

Er mwyn sicrhau bod Blackboard ar gael yn ystod y cyfnod cyn yr arholiadau atodol, rydym wedi penderfynu gohirio’r gwaith o ddiweddaru Blackboard tan ddechrau mis Medi. Ni fydd Blackboard ar gael i’w ddefnyddio felly yn ystod penwythnos 4 – 5 Medi yn ogystal â’r diwrnod canlynol, sef dydd Llun, 6 Medi.Black-Board-Postersmallcym.gif

I alluogi i’r staff ymgyfarwyddo â’r amgylchedd Blackboard newydd bydd system hyfforddi ar gael i bob aelod o staff, a cheir rhagor o fanylion am hyn yn fuan.

Gobeithio y bydd newid y dyddiad yn galluogi’r myfyrwyr i ddefnyddio unrhyw ddeunyddiau angenrheidiol ar gyfer yr arholiadau atodol, a rhoi cyfle i’r staff ymgyfarwyddo â’r offer a’r dewisiadau newydd a gynigir gan Blackboard 9.1.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am unrhyw fater sy’n ymwneud â Blackboard, cysylltwch â bb-team@aber.ac.uk

Tags: blackboard
Created by Kate Wright on 2010/07/15 09:40
Last modified by Kate Wright on 2010/07/15 09:41

This wiki is licensed under a Creative Commons 2.0 license
XWiki Enterprise 2.1.1.25889 - Documentation