Yn ystod penwythnos Medi 4ydd, byddwn yn gwneud gwelliannau i Blackboard (gweler http://nexus.aber.ac.uk/xwiki/bin/view/Main/Blackboard+9?language=cy am fanylion pellach).
Er mwyn gwneud y gwaith hwn ni fydd modd edrych ar nag ychwaith ychwanegu at Blackboard rhwng dydd Sadwrn, Medi 4ydd a dydd Llun, Medi 6ed. Bydd fersiwn newydd AberLearn Blackboard wedyn ar gael ar ddydd Mawrth, Medi 7fed.
Bydd y treiglo drosodd blynyddol hefyd yn digwydd yn ystod y penwythnos hwn. Bydd holl gynnwys cyrsiau yn parhau yn Blackboard, ond bydd cofrestru myfyrwyr yn cael ei symud er mwyn paratoi ar gyfer y garfan nesaf o fyfyrwyr.
Cynghorir staff i lawrlwytho unrhyw eitmau sy’n ymwneud â myfyrwyr megis aseiniadau a gyflwynwyd, marciau ayb.
Bydd myfyrwyr yn colli mynediad i’w modiwlau cyfredol ac fe’u cynghorir i lawrlwytho unrhyw ddeunydd sydd ei angen arnynt ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf. Am fanylion pellach gweler y CHA ar gyfer staff a myfyrwyr.
Os gwelwch yn dda cysylltwch â Chymorth Blackboard (bb-team@aber.ac.uk) am fwy o wybodaeth.