Blog posts for March 2018

Cynllunio amser segur

Saesneg

Nid yw amser segur ar y systemau yr ydym yn dibynnu arnynt yn beth poblogaidd, ac mae’n ymddangos ei fod bob amser yn digwydd ar yr amser mwyaf anghyfleus - pan rydym eisiau gwneud taliad, anfon neges frys neu gael gwybodaeth allweddol am deithio. Mae’r un peth yn wir am ein hoffer dysgu ac addysgu yn y Brifysgol. Penderfynu pryd i drefnu amser segur ar gyfer Blackboard yw un o benderfyniadau mwyaf anodd y swydd. Mae jyglo’r meysydd gwaith gwahanol yn y Brifysgol yn ogystal â gwneud yn siwr ein bod yn ymgynghori â’r holl bobl berthnasol yn cymryd llawer o amser ac amynedd.

I ddechrau, mae’n rhaid gwneud yn siwr eich bod yn gwybod pwy yw’r bobl ‘iawn’ i’w cynnwys – gyda phwy yr ydych yn ymgynghori, pwy sy’n gwneud y penderfyniad, a phwy sy’n cael gwybod gyntaf am y peth? Mae adeiladu rhestr o’r bobl hyn, a’i chadw’n gyfredol yn golygu llawer o waith. Un awgrym  yw ei bod hi bob amser yn well dibynnu ar rolau swydd yn hytrach na phobl – mae pobl yn newid ond yn gyffredinol, mae cyfrifoldebau swydd yn aros yr un fath.

Yna mae angen trefnu dyddiad. Nawr mae angen i bawb estyn eu dyddiaduron ac rydym yn dechrau gweld pa ymrwymiadau eraill sydd gan bobl, ar lefel y tîm/adran (does dim pwynt trefnu amser segur os yw’r sawl sydd i fod i wneud y gwaith cynnal a chadw ar wyliau) ac yna ar lefel y Brifysgol. Mae yna amseroedd y mae’n rhaid eu hosgoi – ni ellir cael amser segur yn ystod amser dysgu (o unrhyw fath). Ond beth mae ‘dysgu’ yn ei olygu: ydych chi wedi cofio bod myfyrwyr TAR yn dechrau’n gynt ac yn gorffen yn hwyrach; ydych chi wedi meddwl am Ddysgwyr o Bell; beth am ein sesiynau ehangu cyfranogiad neu ddysgu gydol oes; pryd mae ein campws dramor angen mynediad? Mae unrhyw amser y bydd myfyrwyr angen adolygu allan ohoni yn ogystal ag unrhyw amser y mae angen defnyddio Blackboard ar gyfer arholiadau.

Rydym yn ceisio osgoi gorffen y gwaith cynnal a chadw ar ddydd Gwener – os yw’r gwaith yn cymryd mwy o amser, neu os oes problem yn codi pan ddaw’r system yn ôl, mae’n well os nad yw hyn yn digwydd dros y penwythnos pan nad yw’r staff cymorth yma. Yn yr un modd, nid ydym yn gwneud gwaith yn ystod cyfnodau pan fo’r brifysgol ar gau. Yn aml mae gwaith cynnal a chadw’n golygu bod rhaid i staff o wahanol adrannau weithio gyda’i gilydd (megis staff rhwydweithio, arbenigwyr cronfeydd data ac ati) ac os ydynt ar wyliau, mae’n anodd gwneud hynny. Hefyd, pan rydyn ni ar wyliau mae’r cwmnïau meddalwedd ar wyliau hefyd. Gall ceisio cael gafael ar beiriannydd meddalwedd arbenigol ar ddydd Nadolig fod yn anodd.

Os oes digwyddiadau blaenoriaeth uchel eraill ymlaen, rydym yn cysegru ein staff i’r rheini yn hytrach na’u tynnu i weithio ar Blackboard. Mae Graddio a Chlirio yn enghreifftiau o gyfnodau pan na fyddwn yn gwneud unrhyw fath o newidiadau i’r system.

Pan fyddwn ni’n meddwl bod gennym ddyddiad rydym yn gofyn i grwp llai o unigolion – Rheolwyr Athrofeydd, Uwch Reolwyr, AQRO a chysylltiadau allweddol eraill. Os ydyn nhw’n dod o hyd i broblem, rhaid cychwyn o’r cychwyn. Os ydyn nhw’n meddwl y bydd yn gweithio, gallwn ddechrau rhoi gwybod i bobl.

Mae hysbysebu yn fater arall. Mae pawb yn cael llawer o negeseuon e-bost felly rydym yn ceisio meddwl yn ofalus ynghylch sut a phryd i roi gwybod i bobl. Rhy gynnar, a bydd pobl yn anghofio, rhy hwyr ac ni allwch drefnu ar ei gyfer. Gormod o negeseuon e-bost a bydd yn cael ei osod ar waelod y pentwr, dim digon o negeseuon e-bost ac ni fydd pobl yn ymwybodol o’r gwaith cynnal a chadw.

Rydym bob amser yn rhoi neges ar flaenddalen Blackboard yn ogystal â defnyddio’r E-bost Wythnosol, Twitter a Facebook. Y tro hwn gwnaethom gynnwys nodyn yn nhroednodiadau ein negeseuon e-bost hefyd.  

Tags:
Created by Nexus Administrator on 22/12/2008
This wiki is licensed under a Creative Commons 2.0 license
XWiki Enterprise 8.3 - Documentation